Sut i ymgeisio
Os ydych yn gwneud cais i ddarparwyr cyrsiau Cymraeg, gallwch ddewis llenwi eich cais i gyd yn y Gymraeg.
Os ydych fel arfer yn byw yng Nghymru, gallai fod gennych yr hawl i gael rhagor o gymorth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig cyllid ychwanegol os ydych yn astudio pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol trwy ffonio 01267 610 400 neu e-bostio [email protected]
Ar ôl i chi ymgeisio, mae’n werth ymchwilio i’r ffyrdd y gallwch gyllidebu a rheoli eich arian – edrychwch ar ein gwybodaeth am Reoli arian (testun yn Saesneg) i gael awgrymiadau, cyngor a chyfrifiannell cyllidebu i’ch helpu i gynllunio’ch arian.