Bangor University
Bangor (Wales)
LL57 2DG
Visit our website Visit our course page
Course contact details
Contact Bangor University
Email:admissions@bangor.ac.uk
Phone:01248 383717
A wyddech chi fod BA Cymraeg ym Mangor yn llawer mwy na chwrs gradd? Mae'n brofiad diwylliannol cyflawn a fydd yn eich galluogi i chwarae rhan broffesiynol yng nghyffro creu Cymru wirioneddol ddwyieithog. Mewn meysydd fel addysg, y diwydiannau creadigol a’r sector treftadaeth, darlledu a’r cyfryngau, cysylltiadau cyhoeddus a marchnata, cyfieithu, cynllunio ieithyddol a gweinyddu cyhoeddus, mae graddedigion Bangor yn cyflawni swyddi o bwys. Maent yno ymhlith arweinwyr ein Cymru gyfoes ac yn llunio ein dyfodol.
Iaith fyw y presennol yn hytrach na chrair o'r gorffennol yw'r Gymraeg ym Mangor. Yma cewch gyfle nid yn unig i astudio a mwynhau un o lenyddiaethau Celtaidd hynotaf y byd, ond cyfle hefyd i ddilyn modiwlau mwy ymarferol eu gogwydd a fydd yn baratoad ardderchog ar gyfer gyrfa a swydd. Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ymchwilio’n annibynnol, i feddwl yn wreiddiol, i ddod i adnabod llenyddiaeth Gymraeg a diwylliant Cymru mewn dyfnder ac i feistroli gwahanol gyweiriau’r iaith. Os dymunwch, bydd cyfle i chi ddilyn eich diddordebau creadigol o dan arweiniad ysgrifenwyr a beirdd profiadol. Cewch ymwybyddiaeth hefyd o’r Gymraeg mewn cyd-destunau rhyngwladol ehangach. Beth yw perthynas y Gymraeg ag ieithoedd eraill y byd? Sut mae ffawd yr iaith yn cymharu ag ieithoedd fel Basgeg a Gwyddeleg? Sut mae llenorion a beirdd Cymru wedi ymateb i themâu byd-eang fel caethwasiaeth, yr Holocost a her ecolegol y byd modern diwydiannol? O’r cyfnodau cynharaf hyd at y presennol, mae’r dewisiadau o ran modiwlau yn eang a’r cyfleoedd i ehangu eich gorwelion yn ddi-ben-draw.
Derbynnir myfyrwyr o gefndiroedd iaith gyntaf ac ail iaith i ddilyn y cwrs hwn. Mae’n ddilyniant naturiol hefyd i fyfyrwyr a ddilynodd y flwyddyn sylfaen Cymraeg i Ddechreuwyr. Mae’n addas yn ogystal i rai a gyrhaeddodd lefel hyfedredd mewn Cymraeg, e.e. drwy Gyrsiau Dysgu Cymraeg y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae opsiynau 'Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' a 'Blwyddyn ar Leoliad' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiynau hyn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i un o’r opsiynau yma ar yr adeg priodol. Mae mwy o wybodaeth am yr opsiynau hyn ar ein gwefan, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiad.
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd hwn, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi. Gwnewch gais am Cymraeg i Ddechreuwyr Q565.
For details of the modular structure, please see the course description on Bangor University's website.
The following entry points are available for this course:
Discover what it's like to study Cymraeg (Welsh) at Bangor University: insights on the course, making friends, personal statement tips, uni prep, and recommended books, podcasts, and videos.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt. Gellir ystyried cymwysterau Lefel 3 ar y cyd â chymhwyster arall yn y Gymraeg (e.e. Safon Uwch, IB Uwch). Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
Os nad ydych yn meddwl y byddwch yn cwrdd a’r gofynion mynediad a nodwyd, efallai y gallwch gael mynediad i’r cwrs hwn trwy lwybr Blwyddyn Sylfaen. Gwelwch: Cymraeg i Ddechreuwyr (Q565).
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol), ceir manylion yn: www.bangor.ac.uk/international/applying/entryrequirements
We are happy to accept combinations of the qualifications listed above, as well as alternative Level 3 qualifications such as City & Guilds, Access and Cambridge Technical Diplomas. Level 3 qualifications can be considered in conjunction with another qualification in Welsh (e.g. A-level, IB Higher). We also welcome applications from mature learners.
If you don't think you'll meet the entry requirements specified, you may be able to gain entry to this course via a Foundation Year route. Please see: Welsh for Beginners/ Cymraeg i Ddechreuwyr (Q565).
International Candidates: school leaving qualifications that are equivalent to A levels/Level 3 and/or college diplomas are accepted from countries worldwide (subject to minimum English Language requirements), details at: www.bangor.ac.uk/international/applying/entryrequirements
For the most up-to-date information on acceptable English Language proficiency qualifications, please visit our webpage below. https://www.bangor.ac.uk/international/future/englishlanguage
This section shows the range of grades students (with UK A-Levels or Pearson BTEC Level 3 National Extended Diplomas) who received offers were previously accepted with (learn more). It is designed to support your research but does not guarantee whether you will or won't get a place. Admissions teams consider various factors, including interviews, subject requirements, and entrance tests. Check all course entry requirements for eligibility.
We are unable to show previous accepted grades for this course. This could be because the course is new, it's a postgraduate course, there isn't enough historical data, or the provider has opted out of sharing their entry grades data for this course - learn more.
| Location | Fee | Year |
|---|---|---|
| England | £9535* | Year 1 |
| Northern Ireland | £9535* | Year 1 |
| Scotland | £9535* | Year 1 |
| Wales | £9535* | Year 1 |
| Channel Islands | £9535* | Year 1 |
| Republic of Ireland | £9535* | Year 1 |
* This is a provisional fee and subject to change.
Tuition fee status depends on a number of criteria and varies according to where in the UK you will study. For further guidance on the criteria for home or overseas tuition fees, please refer to the UKCISA website.
On 4 December 2024 the Welsh Government confirmed that the tuition fee cap (the maximum tuition fee that regulated providers can charge to certain students on full-time undergraduate courses) will increase to £9,535 per year, subject to changes in the regulations by the Welsh Government.
Tuition fees and scholarship information for International applicants can be found here:
https://www.bangor.ac.uk/international/tuition
Bangor (Wales)
LL57 2DG
Visit our website Visit our course page
Email:admissions@bangor.ac.uk
Phone:01248 383717
At Bangor University