Rydym yn cynnig rhaglen radd BA (Anrh) arloesol mewn Addysg Blynyddoedd Cynnar ac Ymarfer Proffesiynol sy'n cynnig ystod amrywiol o fodiwlau ymarfer a theori perthnasol.
Mae dau lwybr astudio ar gael:
•BA (Hons) Early Years Professional Practice (with Early Years Practitioner Status)
•BA (Anrh) Addysg Gynnar ac Ymarfer Proffesiynol gydag SYBC (Dwyieithog)*
Yn y rhaglenni hyn, byddwch yn ennill statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar cymwys (SYBC), gan ennill profiad ymarferol yn y gwaith wedi'i gyfuno â gwybodaeth ddamcaniaethol a pholisi yn ogystal â'r sgiliau trosglwyddadwy sy'n ofynnol ar gyfer ymarfer Blynyddoedd Cynnar effeithiol, gan gynnwys rheoli lleoliadau Blynyddoedd Cynnar. Datblygwyd y rhaglen mewn ymateb uniongyrchol i newidiadau yn y ddarpariaeth Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru a'r DU er mwyn darparu arbenigwyr plentyndod cynnar cymwys sy'n gweithio gyda phlant ifanc a'u teuluoedd.
Agwedd sylfaenol ar y radd yw'r 700 awr o brofiad wedi'i asesu sy'n seiliedig ar ymarfer y byddwch chi'n ei gwblhau er mwyn ennill SYBC. Mae hwn yn cynnwys lleoliad wythnosol yn ystod pob blwyddyn o'ch astudiaeth, mewn ystod o leoliadau perthnasol fel ystafelloedd dosbarth Blynyddoedd Cynnar/Cyfnod Sylfaen, meithrinfeydd preifat, canolfannau plant integredig a chyfleusterau gofal dydd. Fel rhan o'ch gradd byddwch hefyd yn treulio amser yn ein darpariaeth Ysgol Goedwig ar y campws, lle byddwch yn cael profiad uniongyrchol o'r dull deinamig hwn o addysg gynnar. Yn ogystal, byddwch hefyd yn cael cyfle i dreulio amser yn ein hystafell MiniMets a ddatblygwyd er mwyn galluogi i brofi rhagoriaeth yn ymarferol trwy sesiynau ymarferol.
Trwy ennill gradd sydd ar flaen y gad o ran newidiadau yn y sector, bydd eich cymhwyster yn cael ei werthfawrogi'n fawr gan ddarpar gyflogwyr yn y maes hwn. Mae'r radd hon hefyd yn rhoi sylfeini cadarn ar gyfer ystod o yrfaoedd cysylltiedig, fel gwaith cymorth i deuluoedd, iechyd a gofal cymdeithasol a gwaith cymunedol.
*Mae'r radd ddwyieithog yn canolbwyntio ar ddatblygu eich dealltwriaeth academaidd ac ymarferol o addysg gynnar mewn cyd-destun dwyieithog. Er bod peth o'r rhaglen yn cael ei darparu trwy gyfrwng y Saesneg, mae'r rhan fwyaf o'r cwrs dwyieithog ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys cefnogaeth tiwtor personol sy'n siarad Cymraeg a lleoliadau cyfrwng Cymraeg. Gellir cyflwyno asesiadau yn Saesneg neu yn Gymraeg a gellir teilwra'r cynnwys Cymraeg i weddu'ch gallu ieithyddol Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i ateb y galw cynyddol am raddedigion sydd â galluoedd a chymwysterau dwyieithog.
Er mwyn graddio gyda'r radd ddwyieithog, rhaid i fyfyrwyr astudio o leiaf 80 credyd ym mhob blwyddyn trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd myfyrwyr sy'n dilyn y llwybr hwn hefyd yn gymwys i gael ysgoloriaeth Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sydd werth hyd at £3000 dros y tair blynedd.
- Sylwer: Bydd y rhaglen hon yn destun adolygiad yn ystod ym mis Rhagfyr 2019. O'r herwydd, gall cynnwys y cwrs a ddangosir isod newid er mwyn sicrhau bod y rhaglen yn parhau i fod yn gyfredol. Bydd unrhyw ymgeiswyr yn cael gwybod am unrhyw newidiadau wedi iddynt gael eu cadarnhau.