University of Wales Trinity Saint David
College Road
Carmarthen
SA31 3EP
Visit our website Visit our course page
Course contact details
Admissions Office
Email:admissions@uwtsd.ac.uk
Phone:0300 500 5054
Dyluniwyd y BA (Anrh) Astudiaethau Addysg i roi i chi’r sgiliau a’r wybodaeth i weithio gyda dysgwyr o bob oed ac mewn lleoliadau amrywiol. P’un a oes gennych ddiddordeb mewn addysg blynyddoedd cynnar, datblygiad plentyndod, neu gefnogi oedolion mewn addysg, mae’r cwrs hwn yn darparu sylfaen gynhwysfawr ar gyfer gyrfa ystyrlon yn y maes.
Mae’r rhaglen hon yn eich annog i archwilio rôl addysg wrth greu newid cadarnhaol. Gyda ffocws ar gyfiawnder cymdeithasol mewn addysg ac amrywiaeth a chynhwysiant, byddwch yn archwilio sut y gall addysg fynd i’r afael â heriau cymdeithasol allweddol, yn y DU ac yn fyd-eang. Byddwch hefyd yn astudio polisi addysg, gan edrych ar sut mae penderfyniadau’n siapio profiadau dysgwyr ac addysgwyr.
Wrth wraidd y cwrs mae datblygu sgiliau trosglwyddadwy, sy’n eich galluogi i ffynnu mewn gwahanol leoliadau proffesiynol. Byddwch yn archwilio dulliau addysgu a dysgu, yn deall pwysigrwydd Anghenion Addysgol Arbennig (AAA), ac yn ymgysylltu â themâu fel dysgu gydol oes a globaleiddio ym myd addysg. Nod y rhaglen yw eich gwneud yn feddyliwr beirniadol, yn barod i weithredu fel asiant newid mewn proffesiynau sy’n canolbwyntio ar gymdeithas. P’un a oes gennych ddiddordeb mewn addysgu, datblygu polisi, gwaith ieuenctid, neu rolau mewn elusennau a sefydliadau cymunedol, mae’r cwrs yn cefnogi eich datblygiad gyrfa mewn addysg.
Mae’r radd hon yn croesawu hyblygrwydd, gan eich helpu i lunio eich dyfodol yn unol â’ch diddordebau. Gyda modylau sy’n ymdrin ag amrywiaeth o bynciau, megis addysg gynhwysol ac effaith technoleg ar ddysgu, fe gewch safbwynt eang ar yr hyn y mae’n ei olygu i addysgu yn y byd sydd ohoni.
Mae’r rhaglen BA (Anrh) Astudiaethau Addysg yn gyfle i ddeall grym trawsnewidiol addysg. Byddwch yn graddio yn barod i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill.
Byddwch yn archwilio gwreiddiau hanesyddol a chyfoes addysg ac yn archwilio sut mae pobl yn dysgu ar wahanol gyfnodau mewn bywyd. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau craidd ar gyfer llwyddiant academaidd ac yn archwilio materion hanfodol yn ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn addysg.
Addysg: ddoe, heddiw, yfory (20 credydau)
Damcaniaeth ac Arfer Dysgu (20 credydau)
Parchu Hawliau Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru (20 credydau)
Datblygiad ar draws y rhychwant oes (20 credydau)
Datblygu Sgiliau Academaidd Llwyddiannus (20 credydau)
A phopeth yn gyfartal? (20 credyd)
Blwyddyn 2
Mae’r flwyddyn hon yn dyfnhau eich dealltwriaeth o arferion addysgu, drwy ystod eang o fodylau. Byddwch hefyd yn mireinio eich sgiliau ymchwil drwy Ymchwil Addysgol.
Mae Pawb yn Golygu Pawb (20 credydau)
Amgylcheddau dysgu amgen (20 credydau)
Dysgu Ymgysylltiedig â'r Gymuned (20 credydau)
Y 3 R (20 credydau)
Dod yn Addysgwr Cynradd (20 credydau)
Y Meddwl Ymchwilgar: Dulliau Creadigol o Ddysgu ac Addysgu (20 credyd)
Ymchwil Addysgol (20 credyd)
Blwyddyn 3
Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn canolbwyntio ar bynciau uwch fel Oedolion sy’n Dysgu ac Astudiaethau Cwricwlwm ac Asesu. Byddwch hefyd yn ymgymryd â Phrosiect Annibynnol, lle gallwch ymchwilio’n ddwfn i bwnc o’ch dewis, gan arddangos eich arbenigedd a’ch parodrwydd ar gyfer arfer proffesiynol.
Dysgwyr sy'n oedolion a dysgu (20 credydau)
Astudiaethau Cwricwlwm ac Asesu (20 credydau)
Gwneud Gwahaniaeth Gyda'n Gilydd (20 credydau)
Llesiant mewn Addysg (20 credydau)
Prosiect Annibynnol (40 credydau)
Asesir myfyrwyr mewn amryw o ffyrdd i helpu i ddatblygu sgiliau astudio annibynnol yn ogystal â gweithio mewn tîm. Nid ydym yn asesu yn defnyddio arholiadau ond yn hytrach yn defnyddio ystod amrywiol o ddulliau megis portffolios, cyflwyniadau, posteri academaidd yn ogystal ag ystod o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n seiliedig ar ymchwil.
The following entry points are available for this course:
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.
Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Learn more on the University of Wales Trinity Saint David website
This section shows the range of grades students (with UK A-Levels or Pearson BTEC Level 3 National Extended Diplomas) who received offers were previously accepted with (learn more). It is designed to support your research but does not guarantee whether you will or won't get a place. Admissions teams consider various factors, including interviews, subject requirements, and entrance tests. Check all course entry requirements for eligibility.
We are unable to show previous accepted grades for this course. This could be because the course is new, it's a postgraduate course, there isn't enough historical data, or the provider has opted out of sharing their entry grades data for this course - learn more.
| Location | Fee | Year |
|---|---|---|
| England | £9535 | Year 1 |
| Northern Ireland | £9535 | Year 1 |
| Scotland | £9535 | Year 1 |
| Wales | £9535 | Year 1 |
| Channel Islands | £9535 | Year 1 |
| Republic of Ireland | £9535 | Year 1 |
| EU | £15600 | Year 1 |
| International | £15600 | Year 1 |
Tuition fee status depends on a number of criteria and varies according to where in the UK you will study. For further guidance on the criteria for home or overseas tuition fees, please refer to the UKCISA website.
No additional fees or cost information has been supplied for this course, please contact the provider directly.
College Road
Carmarthen
SA31 3EP
Visit our website Visit our course page
Email:admissions@uwtsd.ac.uk
Phone:0300 500 5054
At University of Wales Trinity Saint David