Aberystwyth University Open Day - 5 July 2025
5 Jul 2025, 09:00
Aberystwyth
Mae ein cynllun gradd Hanes a Chysylltiadau Rhyngwladol yn canolbwyntio ar wleidyddiaeth a hanes diweddar gan osod astudiaeth syniadau a sefydliadau gwleidyddol yng nghyd-destun deall datblygiadau hanesyddol. Cyfuna’r cwrs arbenigedd gwyddonwyr gwleidyddol a haneswyr mewn cwrs sydd â strwythur integredig a fydd yn caniatáu dewis eang o fodiwlau i ti. Bydd y dysgu yn cael ei rannu rhwng Adran Hanes a Hanes Cymru ac Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol; mae gan y ddwy enw da am eu gwaith dysgu ac ymchwil yn eu meysydd perthnasol.
Byddwch yn cael eich dysgu mewn dwy adran sydd â hanes hir a llewyrchus. Mae Hanes yn cael ei ddysgu yn Aberystwyth ers 1872, a'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol oedd y gyntaf o'i bath pan sefydlwyd hi yn 1919.
Mae'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ymysg y 40 uchaf yn y byd am ei henw da yn academaidd. (QS. 2017).
Yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF) diweddaraf, roedd Prifysgol Aberystwyth ymhlith y 10 uchaf yn y DU am ansawdd ei dysgu yn y pynciau Hanes a Gwleidyddiaeth.
Yn fyfyriwr ar y cwrs hwn, cewch eich mentora a'ch tywys gan ddarlithwyr sy'n frwdfrydig ac yn ymroddedig i greu amgylchedd dysgu rhagorol a deinamig ichi.
Mae ein haddysgu'n arloesol, yn seiliedig ar ymchwil ac wedi'i chynllunio i ddatblygu'ch sgiliau trosglwyddadwy mewn meysydd megis dadansoddi, dehongli a chyfathrebu. Bydd hyn yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd.
Mae’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn rhedeg yr enwog 'Gemau Argyfwng' - ymarferion chwarae rôl dros dri diwrnod sy'n ymdrin ag ymarferion gwleidyddol, economaidd a diplomyddol a fydd yn datlygu'ch sgiliau trafodaeth a chyfathrebu, meddwl yn feirniadol, gweithio'n rhan o dîm, a datrys problemau.
Mae'r ddwy adran yn cynnig y cyfle i astudio dramor. Gall astudio yn un o'n prifysgolion partner gynnig persbectif newydd i chi ar eich pwnc a'r cyfle i ddyfnhau ac ategu'ch astudiaethau yn Aberystwyth.
Mae’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a’r Adran Hanes a Hanes Cymru yn cynnig nifer o gynlluniau gradd a modiwlau a ddysgir yn gyfan gwbl neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ar y cwrs hwn byddwch yn cael eich dysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau, a byddwch yn cael eich asesu ar ffurf traethodau, adroddiadau, arholiadau, adolygiadau llyfrau, logiau dysgu a chyflwyniadau.
Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi am y cwrs gradd cyfan, ac fe fydd yn gallu'ch helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed rheiny’n faterion academaidd neu bersonol.
Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio ar draws ein dysgu. Byddwn yn eich dysgu i anelu am yr yrfa rydych yn ei dymuno, ac nid y swydd y gallech ei gael.
Mae'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn rhedeg Cynllun Lleoliad Gwaith Seneddol uchel ei barch, sy'n gyfle ichi ennill profiad hynod werthfawr ochr yn ochr ag Aelod Seneddol (Tŷ'r Cyffredin, San Steffan) neu Aelod Senedd Cymru (Senedd Cymru, Caerdydd) am gyfnod o 4-6 wythnos yn ystod yr haf.
Mae’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol hefyd yn gartref i Interstate – y cyfnodolyn myfyrwyr gwleidyddiaeth ryngwladol hynaf yn y DU, a chyfle unigryw i gyhoeddi eich gwaith neu i ennill profiad gwerthfawr yn gweithio fel rhan o’r tîm golygu. Mae'r adran hefyd yn cynnig rhaglen o ddadleuon gwleidyddol, siaradwyr gwadd, cynadleddau a gweithdai, ynghyd â gweithgareddau cymdeithasol megis y ddawns flynyddol.
Bydd astudio am y radd Cysylltiadau Rhyngwladol gyda Hanes yn rhoi ystod o sgiliau trosglwyddadwy a werthfawrogir gan gyflogwyr ichi. Ymhlith rhain mae: y gallu i fynegi syniadau ac i gyfathrebu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar; datrys problemau a meddwl yn greadigol effeithiol; y gallu i weithio'n annibynnol; sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys y gallu i gwrdd â therfynau amser; hunangymhelliant a hunanddibyniaeth;
gweithio mewn tîm, gyda'r gallu i drafod cysyniadau mewn grwpiau, gan wrando ar syniadau gwahanol a dod i gytundeb; sgiliau ymchwil.
Learn what it's like to study at Aberystwyth University. From key stats to campus highlights, open days, and more - find everything you need to know here.
The following entry points are available for this course:
Applicants are selected on their individual merits and offers can vary. We allow you flexibility in meeting our entry requirements, and all qualifications that you have already gained, or are working towards, will be considered when reviewing your application.
We have an inclusive policy which recognises a broad range of qualifications. The entry requirements listed above represent typical offers for some of the most popular qualifications taken by applicants.
If you cannot find the qualifications that you are studying (or have previously studied) please contact our Undergraduate Admissions Office (Telephone: +44 (0)1970 622021; Email: ug-admissions@aber.ac.uk) for advice on your eligibility and details of the typical offer you are likely to receive.
Test | Grade | Additional details |
---|---|---|
Cambridge English Advanced | B | |
Cambridge English Proficiency | C | |
IELTS (Academic) | 6.5 | With minimum 5.5 in each component. |
PTE Academic | 62 | With minimum scores of 51 in each component. |
TOEFL (iBT) | 88 | With minimum scores in components as follows: Listening 21; Writing 21; Reading 22; Speaking 23. |
Within our Contextual Offer Scheme, we strive to embrace students whose educational and social backgrounds may have influenced their academic journey. Our decision-making process involves assessing the entire application to make an assessment based on your grades and individual circumstances.
This section shows the range of grades students were previously accepted with - learn more. It is designed to support your research but does not guarantee whether you will or won't get a place. Admissions teams consider various factors, including interviews, subject requirements, and entrance tests. Check all course entry requirements for eligibility.
We are unable to show previous accepted grades for this course. This could be because the course is new, it's a postgraduate course, there isn't enough historical data, or the provider has opted out of sharing their entry grades data for this course - learn more.
Operated by the Office for Students
Employment after 15 months (Most common jobs)
Go onto work and study
The number of student respondents and response rates can be important in interpreting the data – it is important to note your experience may be different from theirs. This data will be based on the subject area rather than the specific course. Read more about this data on the Discover Uni website.
Location | Fee | Year |
---|---|---|
England | £9000 | Year 1 |
Northern Ireland | £9000 | Year 1 |
Scotland | £9000 | Year 1 |
Wales | £9000 | Year 1 |
Channel Islands | £9000 | Year 1 |
Republic of Ireland | £9000 | Year 1 |
EU | £16520 | Year 1 |
International | £16520 | Year 1 |
Tuition fee status depends on a number of criteria and varies according to where in the UK you will study. For further guidance on the criteria for home or overseas tuition fees, please refer to the UKCISA website.
The UK and Welsh Governments have confirmed that EU students commencing their studies in the academic year 2021/22 will no longer be eligible for home fee status. Fees for EU students will therefore be charged in line with international fees from 2021/22 onwards.
Please note Irish nationals will continue to be eligible for home fee status and support by the Welsh Government under the Common Travel Area arrangement
Penglais
Aberystwyth
Ceredigion
Wales
SY23 3FL
Email:history-enquiries@aber.ac.uk
Phone:+44 (0)1970 622662
Fax: +44 (0)1970 622676
Email:interpol@aber.ac.uk
Phone:+44 (0)1970 622708
Fax: +44 (0)1970 622709
Email:admissions@aber.ac.uk
Phone:01970 622021