University of Wales Trinity Saint David
College Road
Carmarthen
SA31 3EP
Visit our website Visit our course page
Course contact details
Admissions Office
Email:admissions@uwtsd.ac.uk
Phone:0300 500 5054
Mae ein cwrs TAR Uwchradd Bioleg yn berffaith i’r rheini sy’n frwd iawn ynghylch addysg wyddoniaeth.
Mae’r rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) hon yn darparu llwybr i Statws Athro Cymwysedig (SAC) gyda chyfuniad o hyfforddiant dan arweiniad y brifysgol a lleoliadau dan arweiniad ysgolion. Cewch wybodaeth gynhwysfawr am y cwricwlwm a byddwch yn datblygu sgiliau mewn addysgeg ac arfer adfyfyriol.
Mae’r cwrs yn cwmpasu addysgu gwyddoniaeth gyffredinol ac arbenigo mewn bioleg ar gyfer TGAU a Safon Uwch. Cewch brofiad o amrywiaeth o sefydliadau addysgu drwy leoliadau trefol a gwledig, gan gynnwys ysgolion cyfrwng Cymraeg. Mae profiad addysgu proffesiynol (PAP) a chymorth mentoriaid yn hanfodol, gan eich helpu i dyfu fel addysgwr.
Mae’r rhaglen yn amlygu pwysigrwydd addysg wyddoniaeth mewn byd sy’n fwyfwy technolegol. Mae cymorth ariannol ar gael drwy fwrsariaethau ac ysgoloriaethau. Mae’r cwrs hwn wedi’i ddynodi gan Lywodraeth Cymru yn faes pwnc blaenoriaeth uchel, ac mae bwrsariaethau £15,000 ar gael.
Mae’r TAR yn rhaglen academaidd a phroffesiynol amser llawn a chynhwysfawr a luniwyd i’ch paratoi am yrfa lwyddiannus yn addysgu. Mae’r rhaglen yn cwmpasu 36 wythnos, gydag oddeutu 12 wythnos o ddarpariaeth yn y brifysgol ac o leiaf 24 wythnos mewn ysgolion.
Cwricwlwm Craidd
Ein cwricwlwm craidd arloesol a achredwyd yn ddiweddar yw asgwrn cefn ein rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA). Mae’n cynnwys:
Modylau Gorfodol: Mae’r modylau hanfodol hyn yn cwmpasu agweddau sylfaenol ar addysgu ac addysg.
Datblygu Sgiliau Ymchwil: Byddwch yn datblygu sgiliau ymchwil beirniadol sy’n hanfodol ar gyfer arfer adfyfyriol a datblygiad proffesiynol parhaus.
Llwybr Proffesiynol ar gyfer Statws Athro Cymwysedig (SAC): Mae’r llwybr hwn yn sicrhau eich bod yn bodloni’r safonau proffesiynol sy’n ofynnol ar gyfer SAC.
Llwybr Datblygu’r Gymraeg: Byddwch yn gwella’ch gallu i addysgu a chyfathrebu yn y Gymraeg, sgil gwerthfawr yn ein system addysg ddwyieithog.
Pontio: Gweithgareddau sy’n integreiddio damcaniaeth yn ddi-dor â chymhwyso’n ymarferol, gan atgyfnerthu eich profiad dysgu.
Profiadau dewisol: Dewiswch brofiad yn yr ysgol mewn maes o ddiddordeb i ddyfnhau eich arbenigedd a’ch sgiliau ymarferol.
Lleoliad Amgen: Cewch fewnwelediad drwy brofi lleoliadau addysg tu allan i ysgolion traddodiadol, megis amgylcheddau addysg arbennig.
Cylch 1 Astudiaethau Craidd: Y Dysgwr: pwy ydw i'n ei addysgu? (20 credydau)
Arwain y Dysgu: beth, sut a pham ydw i'n addysgu? 1 (30 credydau)
Y Gymraeg mewn Ymarfer Proffesiynol (10 credydau)
Astudiaethau Craidd: Dysgwyr, Ysgolion a Chymunedau: ble ydw i'n addysgu? (30 credydau)
Ymchwilio i'r Dysgu: beth, sut a pham ydw i'n addysgu? (30 credydau)
Mae’r rhaglen yn cynnig 60 credyd ar lefel Meistr a 60 credyd ar lefel Graddedig. Dyfernir y rhain wrth gwblhau asesiadau modwl yn llwyddiannus, sy’n cynnwys:
Astudiaethau achos
Portffolios
Cyflwyniad fideo
Prosiect Ymchwil
Mae pob aseiniad wedi’i gysylltu’n agos ag arfer ac wedi’u dylunio i gynnig cyfle i chi ddatblygu addysgu a dysgu sy’n cael effaith bositif ar blant a phobl ifanc.
To work as a teacher at a state school in England or Wales, you will need to achieve qualified teacher status (QTS). This is offered on this course for the following level:
Gradd anrhydedd 2.2 a TGAU gradd C (neu 4) neu gyfwerth mewn Mathemateg neu Rifedd a Saesneg neu Iaith Gymraeg.
Cyfweld.
Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
| Location | Fee | Year |
|---|---|---|
| England | £9535 | Year 1 |
| Northern Ireland | £9535 | Year 1 |
| Scotland | £9535 | Year 1 |
| Wales | £9535 | Year 1 |
| Channel Islands | £9535 | Year 1 |
| Republic of Ireland | £9535 | Year 1 |
| EU | £15525 | Year 1 |
| International | £15525 | Year 1 |
Tuition fee status depends on a number of criteria and varies according to where in the UK you will study. For further guidance on the criteria for home or overseas tuition fees, please refer to the UKCISA website.
Gall ein myfyrwyr gyrchu ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sydd yn y rhan fwyaf o achosion yn ddigonol i gwblhau eu rhaglen astudio. Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr yn wynebu rhai costau ychwanegol na ellir eu hosgoi yn ogystal â chost eu hyfforddiant yn y brifysgol. Mae’r rhain fel a ganlyn:
Costau gorfodol:
Teithio i ysgolion lleoliad ac i’r Brifysgol.
Teithio i ddarpariaeth arbenigol oddi ar y safle (gan gynnwys ysgolion a darparwyr hyfforddiant eraill).
Teithio i ysgolion ar gyfer ‘Diwrnodau Pontio’ a mentrau eraill ar gyfer y garfan gyfan, yn unol â’r calendr.
Y defnydd o liniadur (mae MS Office yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr).
Myfyrwyr Celf – teithiau i orielau Lundain ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Llyfr braslunio â rhwymyn sbiral A3, portffolio A1
Costau Angenrheidiol:
Teithio i gymryd rhan mewn gweithgareddau cyfoethogi pwnc a drefnir gan y Tiwtor Pwnc
Adnoddau addysgu, er enghraifft, gwerslyfrau Safon Uwch/TGAU
Teithio i leoliadau ‘Meysydd Dewisol’
Dewisol:
Costau argraffu
Teithiau astudio dewisol
College Road
Carmarthen
SA31 3EP
Visit our website Visit our course page
Email:admissions@uwtsd.ac.uk
Phone:0300 500 5054
At University of Wales Trinity Saint David